{kowydd eto i Ivor o gan moliaith}
1 Ivor aur o varwriaeth
2 deg yw'r vau diagr vaeth
3 [270] dewraf wyd a gwrddaf gwr
4 dy ddylyn dieiddilwr
7 myvi yw fraethlyw frwythlawn
8 maer dy dda mawr yw dy ddawn
9 ystewr ystyriawl ydwyd
10 ystor ym ysta wr wyd
11 telais yt wawd tavawd hoyw
12 telaist ym vragod duloyw
13 rhoist ym swllt rhyw ystym serch
14 rhoddaf yt brifenw Rydderch
15 cyvarf arf eirf nith weirdd
16 cyvaillt a mab aillt y beirdd
17 cadarn wawr cedyrn wiwryw
18 caeth y gler cywaethog lyw
19 da oedd a syber dy iach
20 Duw a vedd dau vfuddach
21 wyt ith vardd pellgardd pwyllgall
22 llywiwr llu no'r llaw ir llall
23 om iaith i rhylvnieithir
24 air nid gwael arnad y gwir
27 hyd ir ymddeith dyn eithaf
28 hyd y try hwyl hy haul haf
29 hyd yr heuer y gwenith
30 a hyd y gwlych hoywdeg wlith
33 hyd y gwyl golwg ddigust
34 a hyd y clyw hoywdeg clust
35 hyd y mae iaith Gymraeg
36 a hyd y tyf hadau teg
37 hardd Ivor hoywryw ddevod
38 hir dy gledd heuir dy glod
Dauid ap Gwilim